Proverbs 20

1Mae gwin yn gwawdio, a cwrw yn creu helynt;
dydy'r rhai sy'n meddwi ddim yn ddoeth.
2Mae brenin sy'n bygwth fel llew yn rhuo;
mae'r sawl sy'n ei wylltio yn mentro'i fywyd.
3Mae gwrthod ffraeo yn beth call i'w wneud,
gall unrhyw ffŵl godi helynt.
4Os nad ydy'r dyn diog yn aredig yn y gwanwyn,
pan ddaw'r cynhaeaf, fydd e'n cael dim byd.
5Mae bwriad y meddwl dynol fel dŵr dwfn,
ond gall person deallus ei ddwyn i'r golwg.
6Mae llawer o bobl yn honni bod yn ffrindiau triw,
ond pwy allwch chi ei drystio go iawn?
7Pan mae rhywun yn byw bywyd cyfiawn a gonest,
mae ei blant wedi eu bendithio'n fawr.
8Mae brenin sy'n eistedd ar yr orsedd i farnu
yn gallu gwahaniaethu rhwng drwg a da.
9Oes unrhyw un yn gallu dweud,
“Dw i wedi cadw fy nghalon yn lân;
dw i'n hollol lân a heb bechod”?
10Mae twyllo wrth bwyso a mesur
yn rhywbeth sy'n gas gan yr Arglwydd.
11Mae'r ffordd mae person ifanc yn ymddwyn
yn dangos ydy e'n gymeriad glân a gonest ai peidio.
12Y glust sy'n clywed a'r llygad sy'n gweld –
yr Arglwydd wnaeth y ddwy.
13Paid bod yn rhy hoff o dy gwsg, rhag i ti fynd yn dlawd;
cadw'n effro, a bydd gen ti ddigon i'w fwyta.
14Mae'r prynwr yn dadlau, “Dydy e ddim yn werth rhyw lawer,”
ond yna'n mynd i ffwrdd ac yn brolio'i hun am gael bargen.
15Mae digonedd o aur i'w gael, a pherlau hefyd;
mae geiriau doeth fel gem werthfawr.
16Cymer ei wisg, gan ei fod wedi gwarantu benthyciad rhywun;
cadw hi'n warant os gwnaeth hynny dros bobl ddieithr.
17Falle fod bwyd sydd wedi ei ddwyn yn flasus,
ond bydd dy geg yn llawn graean yn y diwedd.
18Mae cyngor da yn gwneud i gynlluniau lwyddo;
ewch i ryfel gyda strategaeth glir.
19Mae'r un sy'n hel clecs yn methu cadw cyfrinach; a
paid cael dim i'w wneud â'r llac ei dafod.
20Os ydy rhywun yn melltithio ei dad neu ei fam,
bydd ei lamp yn diffodd mewn tywyllwch dudew.
21Pan mae rhywun yn derbyn etifeddiaeth yn rhy hawdd,
fydd dim bendith yn y diwedd.
22Paid dweud, “Bydda i'n talu'r pwyth yn ôl!”
Disgwyl i'r Arglwydd achub dy gam di.
23Mae twyllo wrth bwyso nwyddau yn gas gan yr Arglwydd;
dydy clorian dwyllodrus ddim yn dda.
24Yr Arglwydd sy'n trefnu'r ffordd mae rhywun yn mynd;
sut all unrhyw un wybod beth sydd o'i flaen?
25Mae'n gamgymeriad i rywun gyflwyno rhodd i Dduw yn fyrbwyll,
a dim ond meddwl wedyn beth wnaeth e addo ei wneud.
26Mae brenin doeth yn gwahanu'r drwg oddi wrth y da,
ac yna'n troi'r olwyn sy'n eu dyrnu nhw.
27Mae'r gydwybod fel lamp gan yr Arglwydd,
yn chwilio'n ddwfn beth sydd yn y galon.
28Cariad a ffyddlondeb sy'n amddiffyn y brenin; b
a'i gariad e sy'n ei gadw ar yr orsedd.
29Mae pobl yn edmygu cryfder dynion ifanc,
ond gwallt gwyn sy'n rhoi urddas i bobl mewn oed.
30Mae dioddefaint a chleisiau yn cael gwared â drwg,
ac yn delio gyda'r person y tu mewn.
Copyright information for CYM